Gabriel Bernal Youth Anthem

Cychwyn ar Daith Anthem

Roedd Anthem a’r fforwm ieuenctid yn gyfle y gwnes fanteisio arno yn ddiymdroi. Gan fy mod yn fyfyriwr Busnes Cerddoriaeth yn y brifysgol yn ogystal ag yn gynhyrchydd cerddoriaeth electronig, mae cerddoriaeth yn gonglfaen yn fy mywyd; roedd rhannu’r angerdd a’r brwdfrydedd yma gyda phobl o gyffelyb fryd i ysbrydoli’r ieuenctid yng Nghymru yn gyfle na allwn ei golli. A minnau bellach wedi cwrdd â gweddill y tîm, rwy’n hyderus, drwy ein sbardun a’n meddwl agored, y gallwn greu mudiad hirhoedlog.

Bydd awydd Anthem i gael effaith yn fy helpu i gyflawni fy nodau craidd yn y weledigaeth sydd gen i o ran cerddoriaeth. Dyma fy ngweledigaeth:

Dilysu – Yn anffodus, nid yw cerddoriaeth yn gyffredinol yn cael ei hystyried yn llwybr gyrfa diffuant a synhwyrol i unigolion ifanc, a phwysleisiwyd hyn ymhellach gan gynllun ‘Retrain’ y llywodraeth ar gyfer y diwydiannau creadigol yn ystod y pandemig. Mae angen i hyn newid. Rwyf eisiau dilysu cerddoriaeth fel allbwn creadigol gwerthfawr a hefyd fel llwybr proffesiynol. Drwy fy nghwrs prifysgol, dysgais fod cymaint o rolau gwahanol yn y diwydiant cerddoriaeth ac rwyf eisiau taflu goleuni arnynt er mwyn annog unigolion i geisio gwireddu eu breuddwydion ym myd cerddoriaeth.

Addysgu – Mae addysgu a lledaenu gwybodaeth hefyd yn rhan hanfodol o fy ngweledigaeth. Y gobaith yw y bydd sicrhau bod yr ieuenctid yn ymwybodol o ddyfnder cerddoriaeth, nid yn unig o ran creadigrwydd ond hefyd fel diwydiant, yn eu helpu i ffynnu yn eu teithiau eu hunain. Hefyd, roedd dysgu’r grefft o gynhyrchu cerddoriaeth yn dasg aruthrol o frawychus i mi. Er i mi fwynhau pob eiliad ohoni’n arw, gallaf ddychmygu y gallai’r broses hon fod yn llethol, felly hoffwn yn fawr weld y broses honno’n cael ei hesmwytho i’r unigolion hynny sy’n ymdrechu i archwilio eu creadigrwydd drwy lwybr anghonfensiynol cynhyrchu cerddoriaeth.

Ysbrydoli – Drwy Anthem, gobeithiaf hefyd ysbrydoli’r ieuenctid i beidio byth â rhoi’r gorau i dyfu fel unigolion a’u hysgogi i barhau â neges cerddoriaeth, angerdd a thwf. Yr ieuenctid yw ein dyfodol, ac os gallwn roi tân yn eu boliau hwy, byddant hwythau’n rhoi tân ym moliau pawb arall o’u hamgylch, gan greu cymunedau sy’n rhan o fudiad ehangach.

Dysgu – Ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen yn arw at ddysgu oddi wrth y cymunedau a’r unigolion gwych y byddaf yn cwrdd â nhw ar hyd y ffordd. Bydd gweld doniau, angerdd a phrofiadau cymaint o bobl yn agor fy llygaid ymhellach i harddwch cerddoriaeth a bydd yn caniatáu i mi dyfu’n gryfach fel person.

Credaf, felly, mai Anthem yw’r cyfle hwnnw i gael effaith barhaol ar fywydau llawer o bobl ifanc ledled Cymru. Gallwn newid y canfyddiad o gerddoriaeth mewn ffordd gadarnhaol drwy waredu’r rhwystrau sy’n dal cerddoriaeth yn ôl. Dyma pam fy mod yn teimlo cyffro rhyfeddol am gael bod yn rhan o’r prosiectau sydd ar y gweill ar gychwyn taith Anthem.

  • Gabriel Bernal