Y bobl ifanc sy’n helpu Anthem i ffurfio ei dyfodol

Mae deuddeg o bobl ifanc o Gymru yn gweithio gydag Anthem i rannu eu barn a’u profiadau a helpu i ffurfio gwaith Anthem yn y dyfodol. Gwnaeth Fforwm Ieuenctid Anthem gyfarfod am y tro cyntaf ar ddechrau mis Chwefror a bydd yn parhau i gyfarfod yn wythnosol dros y ddau fis nesaf.

Mae’r deuddeg o bobl ifanc, rhwng 18 a 25 oed, yn cynrychioli amrywiaeth o genres a phrofiadau cerddorol, gan gynnwys cantorion / cyfansoddwyr caneuon, offerynwyr clasurol, cerddorion roc, rapiwr, cynhyrchwyr cerddoriaeth a rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cerdd.

Maen nhw’n gweithio gyda Phrif Weithredwr, bwrdd a thîm llawrydd Anthem, i adnewyddu brand a gwefan Anthem, creu storïau digidol am eu profiadau, a dechrau ffurfio sut gall pobl ifanc gael eu cynnwys yng ngwaith Anthem wrth iddo ddatblygu. Penllanw eu gwaith cychwynnol fydd digwyddiad ar-lein i bobl ifanc sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru ym mis Ebrill.  

Mae’r gwaith yn adeiladu ar ymgynghoriad ieuenctid ehangach a gynhaliwyd ym mis Mai a mis Mehefin 2020. Sgroliwch lawr i ddarllen yr eitem newyddion am hyn (mae ein gwefan newydd, haws i’w llywio, ar y gweill!).

Dyma’r Fforwm Ieuenctid:

●      Andrew Ogun – cerddor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr creadigol ac ymgyrchydd

●      Archie Howat – cynhyrchydd cerddoriaeth, rhedeg stiwdio recordio ac yn rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun

●      Blank Face (Joshua Whyte) – canwr/cyfansoddwr caneuon

●      Charys Bestley – cynorthwyydd digwyddiadau llawrydd, cynrychiolydd sioeau a ffotograffydd

●      Chloe Jane Lovell – feiolinydd, aelod o gerddorfa, myfyriwr Cerddoriaeth blwyddyn gyntaf, Prifysgol Caerdydd

●      Dafydd Griffiths – aelod o fand (gitâr), myfyriwr cerddoriaeth yng Ngholeg Glynebwy

●      Ella Pearson – oböydd, myfyriwr Perfformio Cerddoriaeth 3edd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

●      Gabriel Bernal – myfyriwr Busnes Cerddoriaeth, Prifysgol De Cymru

●      James Prendergast – hyrwyddwr digwyddiadau byw, cyflwynydd sioe radio, rheolwr artistiaid

●      Kyle Jones / Qye – cynhyrchydd cerddoriaeth, pianydd, gitarydd

●      Mr X – creu, cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth, astudio gyda Forget-Me-Not-Productions

●      Tayla-Leigh Payne – cyfansoddwr a myfyriwr Cyfansoddi blwyddyn olaf yn CBCDC

Ynglŷn ag Anthem

Sefydlwyd Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn archwilio ffyrdd i gynorthwyo pobl ifanc sy’n creu ac yn dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r elusen yn awr ar gam cyffrous yn ei datblygiad, wedi i Brif Weithredwr amser llawn gael ei phenodi yn hydref 2020. Mae hithau’n dwyn grŵp o ymddiriedolwyr a thîm ynghyd i weithio tuag at weledigaeth a chenhadaeth Anthem.