Ein hymddiriedolwyr gwirfoddol gwych!

Mae Tori Sillman yn cyfweld ag ymddiriedolwyr Anthem

Haia! Tori Sillman ydw i. Fe ymunais i â thîm Anthem ym mis Mehefin 2021 yn rôl lleoliad Kickstart – cynorthwyydd prosiect a marchnata. A minnau’n frwdfrydig ac yn ddiolchgar eithriadol am gael y cyfle i gwrdd â’r fforwm ieuenctid a thîm Anthem a gweithio gyda nhw, fe wnes i ymuno â chyfarfod o aelodau’r bwrdd a chael fy nghyflwyno i’r tîm o ymddiriedolwyr gwirfoddol sy’n gwneud yn siŵr bod yr elusen yn cyflawni’i chenhadaeth. Maen nhw’n cwrdd yn fisol ac yn helpu Anthem mewn pob math o ffyrdd. Yn ystod y cyfarfod, cefais y cyfle i ofyn cwestiynau i ambell un ohonyn nhw i ddarganfod sut a pham fod eu hangerdd wedi’u harwain at Anthem. Dyma’r holl atebion sydd eu hangen arnoch chi.

Yn cyflwyno…

David Alston M.B.E. - Ein Cadeirydd

Roedd David yn Gyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2005 a 2019 ac roedd yn un o’r ymddiriedolwyr sefydlu.

Pam wnaethoch chi ymuno ag Anthem?

Yn rhyfedd, cynnyrch fy meddwl i yw Anthem. Roeddwn i’n eistedd mewn cyfarfod yn mynd rownd mewn cylchoedd bedair blynedd yn ôl ynglŷn ag adnoddau ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru ac i bobl ifanc, ac yn methu â gweld ffordd ymlaen nac ongl wahanol o feddwl. Dyma fi’n cyflwyno syniad a dweud mai’r hyn sydd ei angen arnom ni go iawn yw gwaddol i gerddoriaeth a phobl ifanc, a dyna sut wnes i ddechrau ymwneud ag Anthem wrth geisio cael gwynt dan adain y syniad, ond mae’n sicr wedi esgyn gryn dipyn ers hynny.

Pam fod gennych chi angerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru?

Mae’n dal i fod gen i obsesiwn â’r syniad bod cymaint o dalent, diddordeb ac egni yno ymysg pobl ifanc. Mae’n aml yn rhwystredig am nad oes iddo’r cyd-destun o’i amgylch i’w wneud yn bosibilrwydd. Ond mae llawer o bobl yn creu pethau felly os byddai yno rywbeth i roi ychydig mwy o fomentwm i’r hyn mae pobl ifanc yn ei wneud, gan weithio ar draws pob math o gymunedau i gynnig cyfleoedd, gallai wneud gwahaniaeth go iawn. Dyna sy’n fy ysgogi i; mae’n dal i fod yno ac yn dal i fod yn gryf. Rwy’n gwybod mai fi yw’r unig un ar fwrdd Anthem sydd ddim yn gerddor, ar wahân i Vicky. Pan fydd Anthem yn ffurfio band, bydd Vicky a mi ar y maracas. Fe wnaethom ni ddod i’r casgliad mai dyna’r unig gyfraniad y gallem ni ei wneud!

Ffaith hwyliog amdanoch chi a cherddoriaeth.

Efallai y bydd hyn yn meddwl rhywbeth i rai pobl, ond rydw i hefyd yn gwybod am fy mod i wedi darllen proffil o Syr Simon Rattle, arweinydd Cerddorfa Symffoni Llundain – fel bachgen 14 oed, roeddwn i’n eistedd yno yn yr un cyngerdd ag yntau, cyngerdd Belshazzar’s Feast gan William Walton yn Lerpwl, a chan farnu ar yr hyn ysgrifennodd Rattle am y cyngerdd hwnnw, fe wnaeth bron yr un argraff arnaf i ag a wnaeth ar Syr Simon Rattle. Ond yn amlwg, roedd hanes ei fywyd yntau ychydig yn wahanol o ganlyniad i’r profiad… ond mae honno’n ffaith ryfedd!

Catrin Roberts - Ymddiriedolwr

Daw Catrin o’r gogledd, ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae’n gweithio i S4C yn arwain ar waith materion cyhoeddus, a chyn hynny roedd yn aelod o dîm materion corfforaethol y BBC yn Llundain. Mae ganddi brofiad o faterion allanol ar lefelau datganoledig, San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd. Mae Catrin hefyd yn aelod o fwrdd Rhwydwaith Amrywiaeth Greadigol o ddarlledwyr y Deyrnas Unedig a bu ganddi angerdd erioed at gerddoriaeth a’r rôl y gall chwarae mewn llesiant a datblygiad. 

Pam wnaethoch chi ymuno ag Anthem?

Mi wnes i ddechrau ymwneud ag Anthem am y gall drawsnewid bywydau, addysgu sgiliau, sicrhau llesiant a rhoi cyfle i bawb.  Mi gefais i gymaint o gyfleoedd i fwynhau a gweld manteision cerddoriaeth pan oeddwn i’n fach ac rydw i eisiau i bawb allu derbyn yr un cyfleoedd – er bod pethau ychydig yn anodd rŵan a bod addysg a gwasanaeth cerddoriaeth wedi gorfod newid cymaint. Gyda Covid ar ben hynny, a phobl yn teimlo eu bod wedi’u hynysu, mae gan gerddoriaeth fwy o rôl nag erioed i’w chwarae i sicrhau iechyd a lles, a gobeithiaf y gallaf i chwarae rhan fach i sicrhau hyn rywfodd.

Pam fod gennych chi angerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru?

Unwaith eto, mi gefais i gymaint o gyfleoedd – drwy’r ysgol, drwy gorau, sioeau cerdd, dysgu chwarae offerynnau cerdd a mynd i gigs. Dydw i byth am ennill gwobrau am berfformio (rwy’n o lew mewn côr neu ensemble) ond rydw i wrth fy modd yn gwrando a chymryd rhan a gwerthfawrogi pobl sydd lawer yn fwy dawnus na mi! 

Mi wnaeth cerddoriaeth chwarae rhan bwysig yn fy mhlentyndod – mewn tyddyn yn y wlad y magwyd fy mam, ond roedd ganddi ewythr a wnaeth ei chyflwyno i gyngherddau yn Lerpwl ac roedd eisiau i ni gael yr un profiadau a fyddai’n agoriad llygad/clust/meddwl. Arferai fy nhad chwarae caneuon i ni a chanu gyda ni hefyd. Ac roedd fy ffrind pennaf a oedd yn byw drws nesaf yn gerddor gwych ac roeddwn i wrth fy modd yn ei chlywed hithau’n ymarfer. 

Mae gen i dri o blant bach erbyn hyn, ac mi allaf weld o lygad y ffynnon sut gall cerddoriaeth effeithio arnyn nhw: gallaf chwarae caneuon cyflym i’w brysio, cerddoriaeth araf a thawel i’w helpu i ymlacio, caneuon digri i’w gwneud nhw i chwerthin a cherddoriaeth i wneud iddyn nhw feddwl a dychmygu bydoedd cwbl newydd. Mi fyddwn ni’n rhoi cerddoriaeth ymlaen ac yn dawnsio i anghofio’r hyn sy’n ein blino. Mi fyddwn i ar goll heb gerddoriaeth yn fy mywyd.

Ffaith hwyliog amdanoch chi a cherddoriaeth.

* Un tro, mi wnes i gwrdd â Michael Eavis drwy’r gwaith a phan ofynnodd i mi a oedd gen i docyn pan es i i Glastonbury, roedd yn rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi cropian i mewn drwy dwnnel o dan y ffens… (mi ddwedodd ei fod yn falch a bod yn well ganddo’r adeg pan nad oedd y ffens yno!)

* Mi wnes i fethu fy ngradd dau ffidl – roeddwn i’n casáu ymarfer ac yn bod yn dipyn o rebel…

* Mi oeddwn i’n arfer canu’r delyn a’r piano hefyd

* Rwy wrth fy modd ag ychydig o Shirl – Hey Big Spender a Chess ar y karaoke (dydw i ddim yn dda)

* Mi wnaeth fy ngŵr chwarae Final Countdown ar yr organ cyn i ni briodi.

* Mi oeddwn i yn y gig gyntaf erioed yn Nhŷ’r Cyffredin (Biffy Clyro) ac roedd yr ASau yn dawnsio!

Ify Iwobi - Ymddiriedolwr

Pianydd/cyfansoddwr clasurol/cyfoes o Abertawe yw Ify, ac mae hi ar ‘Welsh A List’ y BBC. Mae’n perfformio ei cherddoriaeth ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Enillodd Ify lu o wobrau gan gynnwys 2016: Cerddor Ifanc y Flwyddyn Hanes Pobl Dduon a 2020: Artist ‘A List’ BBC Radio Wales.

Pam wnaethoch chi ymuno ag Anthem?

I mi, rwy’n dwlu ar y ffaith bod Anthem yno i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc ac mae’n eithriadol o bwysig bod pobl ifanc ym maes cerddoriaeth yn cael eu dathlu. Mae’n gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl ifanc ac mae cymaint o awch gan lawer o bobl amdano. Felly byddai creu’r cyfleoedd hynny yn meddwl y byd, ac rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â’r cyfleoedd hynny i gerddorion er mwyn iddyn nhw gyrraedd ble maen nhw eisiau bod. 

Hefyd, mae’r ffaith bod pobl yn gwybod am yr artistiaid, yn gwybod ble maen nhw eisiau i’w gyrfa fynd, a faint mae’n ei feddwl iddyn nhw, mor bwysig. Felly diolch i Anthem am ddathlu hynny. 

Pam fod gennych chi angerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru?

Rwy’n gerddor fy hun, yn bianydd/cyfansoddwr, y bywyd yw’r peth i mi. Dyna’n wir yw’r peth. Allwn i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall, a dyna fywyd i gymaint o bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n rhoi llawenydd, mae’n cyfoethogi eu bywydau ac yn rhoi synnwyr o ddiben a hapusrwydd. Mae llawer o bobl ifanc fel fi sydd â’r angerdd yma, ac mae mor bwysig. 

Mae yna heriau wedi bod i dorri drwyddo a chyrraedd ble’r ydych chi eisiau bod, ond gyda chymorth Anthem, fe allwn ni chwalu’r rhwystrau hynny a chreu cyfleoedd. Mae’n wych, a cheisio sefyll yn y bwlch er mwyn helpu cerddorion ar eu taith. Cerddor ydw i, cerddoriaeth yw bywyd, a dyna’r angerdd i lawer.

Victoria Papworth - Ymddiriedolwr

Mae Vicki yn flaenorol wedi gweithio i rwydwaith mwyaf y Deyrnas Unedig o sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan ddyngarwch, yn cynghori noddwyr, elusennau, mentrau cymdeithasol a’r Llywodraeth ynglŷn â chyllido strategol. Mae bellach yn gweithio fel Arbenigwr Dyngarwch ar gyfer Banc Coutts, yn darparu cymorth i gleientiaid U/HNW a’u teuluoedd ynglŷn â’u dyheadau o ran rhoi a’r achosion sy’n agos at eu calonnau. 

Pam fod gennych chi angerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru?

Rwy’n dod o gefndir ychydig yn wahanol. Dydw i ddim yn dod o Gymru a dydw i ddim yn gerddor. Ond mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan fawr iawn o fy mywyd. Mae gwrando ar gerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Wrth edrych yn ôl ar yr holl adegau pwysig yna yn fy mywyd, mae yna drac sain pendant iddyn nhw sy’n ddwys iawn ac sy’n golygu rhywbeth i mi gymaint â’r atgofion gweledol.

Wrth feddwl am fy mywyd nawr – rwy’n gwybod mor anodd y bu’r cyfnod clo y llynedd a pha mor anodd oedd peidio â chael cyswllt a rhannu llawer o bethau â phobl eraill – fy atgofion gorau oll a’r adegau gorau i mi oedd gyda’r nos, gyda gwydraid o win yng nghwmni fy ngŵr pan oedden ni’n cau’r llenni ac yn gwneud noson o ddawnsio ohoni!

Pam wnaethoch chi ymuno ag Anthem?

Rwy’n fwy o geek polisi na cherddor, am wn i. Yn fy meddwl i, mae’r celfyddydau creadigol mor gwbl hanfodol i hapusrwydd pobl, cymunedau a’r byd. Ac mae’n ymddangos i mi, os ydym ni wedi cyfyngu ar gyllid a mynediad i’r gwasanaethau hanfodol yma, nid yn unig ei fod yn annheg, ond mae hefyd yn arwain at fethiant llwyr o’r hyn rydym ni eisiau i’n cymunedau a’n cymdeithasau fod. Felly rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â chynnig fy sgiliau a’m hadnoddau i i helpu pobl ifanc i roi lle cwbl ganolog i’w llais.