Cyhoeddi tri cherddor ac arbenigwyr diwydiant o Gymru yn Llysgenhadon Anthem - Kizzy Crawford, Catrin Finch a Huw Stephens.

Mae Anthem. Cronfa Gerdd Cymru wrth ei bodd o gyhoeddi mai rhai o gerddorion, cyfansoddwyr, cynhyrchwyr ac arbenigwyr diwydiant mwyaf profiadol Cymru fydd Llysgenhadon Anthem, yn helpu i eirioli, ysbrydoli a meithrin amrywiaeth cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r cerddorion a’r cyfansoddwyr Kizzy Crawford a Catrin Finch a’r DJ a’r cynhyrchydd Huw Stephens oll wedi gwneud eu marc ar ddiwydiant cerddoriaeth Cymru ac yn rhyngwladol ac yn dod â’u hangerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru i Anthem. 

Cafodd tri Llysgennad Anthem fynediad at gerddoriaeth yn ifanc, gan ddatblygu eu galluoedd a manteisio ar gyfleoedd yn y diwydiant. Nawr maen nhw am gymryd y cyfle i wneud yn siŵr y gall y cenedlaethau nesaf o bobl ifanc gael eu hysbrydoli a derbyn cyfleoedd fel y gwnaethon nhw.

Mae’r gantores-gyfansoddwraig Bajan-Gymreig, Kizzy Crawford, wedi gwneud ei marc ar gerddoriaeth drwy gyfuno jazz enaid-gwerin dwyieithog. A hithau’n 25 oed, cafodd Kizzy a’i gwaith lwyddiant wrth gael eu chwarae ar donfeddi rhyngwladol a’r Unol Daleithiau, BBC Radio1-4, BBC6 Music, BBC Radio Cymru, Radio Wales a Jazz FM! Croeso Kizzy!

Meddai Kizzy, “Rwy’n meddwl bod gwaith Anthem yn bwysig iawn yng Nghymru ar hyn o bryd am ei fod yn rhoi llwyfan gwych i artistiaid ifanc sy’n gobeithio dilyn a chynnal gyrfaoedd cerddorol. Mae’r gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd ar gael yn wych ac yn fy mhrofiad i, mae cael pobl sy’n eich annog ac sy’n credu ynddoch chi wrth i chi gychwyn arni yn help mawr i artist ifanc.”

Mae’r delynores Gymreig o fri rhyngwladol Catrin Finch wedi perfformio ar draws y byd ac wedi cydweithio â nifer o artistiaid traws-genre. Hi oedd telynores swyddogol Tywysog Cymru (2000-2004) ac, ar hyn o bryd, mae’n artist preswyl ac athro gwadd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Croeso Catrin!

Meddai Catrin, “Mae cerddoriaeth mor bwysig i ni i gyd, ond yn arbennig i bobl ifanc. Beth bynnag yw ein cefndir, mae ganddi’r pŵer i’n cysylltu ni drwy greadigrwydd, emosiwn a dysgu. Ddylai cerddoriaeth byth fod yn rhywbeth na all rhywun ei fforddio, ac felly mae’r gwaith y bydd Anthem yn ei wneud mor hanfodol i sicrhau bod gan bob person ifanc yma yng Nghymru fynediad i gerddoriaeth ac addysg gerddorol, a bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu.”

Mae’r DJ a’r cyflwynydd radio adnabyddus, Huw Stephens, wedi bod ar flaen y gad yn cefnogi cerddoriaeth newydd am dros ddau ddegawd ar BBC Radio Cymru, Radio Wales, Radio 1 a Radio 6 Music, yn ogystal â sefydlu Gŵyl Sŵn. Mae gan Huw angerdd at gerddoriaeth yng Nghymru a bu’n hybu cerddoriaeth o Gymru ar draws sîn gerddoriaeth Prydain. Croeso Huw!

Meddai Huw, “Rwy’n falch o fod yn llysgennad i Anthem, am fy mod i’n gwybod mor bwysig yw chwarae cerddoriaeth pan rydych chi’n ifanc, a sut gall newid bywydau. Rydyn ni’n dwlu ar gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid i’r creadigrwydd sy’n creu cerddoriaeth o bob genre gael ei annog i bawb.

Meddai Prif Weithredwr Anthem, Rhian Hutchings: “Ein huchelgais yn Anthem yw galluogi mynediad i gerddoriaeth, creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau, a meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf at yrfaoedd cerddorol.”

“Rydym wrth ein bodd y bydd Catrin, Huw a Kizzy yn ymuno â theulu Anthem ac yn gweithio gyda ni i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chreu cyfleoedd cerddorol i unrhyw berson ifanc yng Nghymru sy’n wynebu rhwystrau.”

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y Llysgenhadon yn helpu Anthem i greu cysylltiadau a helpu i ddatblygu cyfleoedd i’r Sector Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru. Byddant yn helpu i lansio partneriaeth ag Youth Music i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, menter i greu porth digidol i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac effaith gynyddol Fforwm Ieuenctid Cerddoriaeth Cymru. Mae’r Llysgenhadon wedi dechrau ar eu gwaith gydag Anthem drwy gyfrannu at y gyfres bodlediad newydd, Amplify, gyda Kizzy Crawford yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd Ify Iwobi yn y bennod ddiweddaraf – Pam mae cerddoriaeth mor bwysig i iechyd meddwl pobl ifanc.