Ydych chi rhwng 18 a 24 oed, yn hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, ac yn dymuno gweithio ym maes gweinyddiaeth elusennol cerddoriaeth / y celfyddydau?

Mae Anthem yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol ac Ymchwil ar Leoliad Kickstart i weithio gyda’n Prif Swyddog Gweithredol i helpu gyda gwaith cynllunio, datblygu prosiectau ac ymchwilio. Os oes gennych chi angerdd at gerddoriaeth ac yn awyddus i fagu profiad proffesiynol a datblygu eich sgiliau, dyma’r rôl i chi.

Mae Rôl Cynorthwyydd Gweinyddol ac Ymchwil – Lleoliad Kickstart yn cael ei hariannu drwy Gynllun Kickstart. Lleoliad 6 mis ydyw sy’n cael ei gynnig ar yr isafswm cyflog am gyfnod o 26 wythnos. Caiff y rôl ei chynnig i unrhyw un 18-24 oed sydd ar hyn o bryd yn hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn hyfforddiant a mentora yn ymwneud â chyflogadwyedd dan ofal Go Connect yn ystod eu horiau gwaith.

Bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol ac Ymchwil – Lleoliad Kickstart yn cynorthwyo Tîm Anthem â chynllunio a gwaith gweinyddol cyffredinol, trefnu a datblygu rhaglenni strategol allweddol, a gwaith ymchwil. Mae Anthem yn rhedeg tîm bach o staff gyda chyfraniadau gan weithwyr llawrydd allweddol. Nid oes gan Anthem swyddfa ganolog a bydd y rôl hon yn seiliedig gartref. Caiff cyfarfodydd tîm eu cynnal dros zoom ac wyneb yn wyneb.

Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys amserlennu cyfarfodydd, cadw cofnodion cyfarfodydd, cyfathrebu gyda thimau prosiectau, creu ffolderi Google Drive ar gyfer gwahanol brosiectau, creu templedi i gasglu data, creu arolygon, ymchwilio i ddulliau ymgysylltu digidol, a dod ag adroddiadau ymchwil ynghyd.

SGILIAU SYDD EU HANGEN

  • Rydym yn edrych am ymgeiswyr sydd ag angerdd at gerddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru.
  • Gwybodaeth ymarferol dda am weithdrefnau gweinyddol cyffredinol a diddordeb mewn ymchwil.
  • Bydd hefyd angen profiad arnoch o weithio yn unol â therfynau amser, sgiliau TG da, a gwybodaeth am wasanaethau Google.
  • Bydd angen bod gennych chi fodd i ddefnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd.
  • Rydym yn edrych am aelod da o dîm sydd ag agwedd gadarnhaol ac sy’n awyddus i ddysgu a datblygu.
  • Byddai profiad personol o addysg cerddoriaeth neu gerddoriaeth ieuenctid yn gaffaeliad i’r rôl.
  • Mae Anthem yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dysgu’r Gymraeg neu sy’n rhugl yn y Gymraeg.

ORIAU GWEITHIO

Gweithio hyblyg i’w gytuno â’r ymgeisydd llwyddiannus.

CYFRADD YR AWR

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

SUT I WNEUD CAIS

Mae’n rhaid gwneud cais am y swydd hon drwy eich canolfan waith leol drwy eich hyfforddwr gwaith. Cewch wybod mwy fan yma: 

https://findajob.dwp.gov.uk/details/7415858

DYDDIAD CAU: 26ain Tachwedd 2021