Closure

‘Closure’

Fe wnaethom ni greu’r fideo hwn i roi llwyfan i aelodau ein Fforwm Ieuenctid. ‘Closure’ gan LowKiy a Blank Face, sy’n aelod o’r Fforwm Ieuenctid, yw’r trac hyfryd sy’n gyfeiliant iddo.

Mae’n briodol ei fod yn sôn am ddiweddglo gan fod ein prosiect Fforwm Ieuenctid wedi dod i ben. Rydym yn dal mewn cysylltiad gyda’r aelodau, ac maent yn ein helpu ni gyda darnau bach o waith tra rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i gyllid ar gyfer cyfnod nesa’r brosiect. Maent wedi bod yn gweithio ar ‘Summit’ hefyd – cynhadledd y diwydiant gerdd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc (mwy o wybodaeth yn fuan …).

Dyma ychydig o hanes y trac ganddyn nhw.

Daeth y cysyniad ar gyfer ‘Closure’ o’r rhwystredigaeth cyffredinol oedd wedi’i gyfeirio at ddigwyddiadau anffodus yn ystod 2020; os oeddem ni am ddod dros yr ymateb, roedd angen i ni ddod o hyd i rywfaint o’r ‘closure’ yna a symud ymlaen i’r flwyddyn newydd!

Mae’r trac yn sôn am gael eich bradychu gan frodyr a theulu bore oes, a’r cyfan yn tarddu o fod ar drywydd barusrwydd ac arian. Dyma oedd y tu ôl i’r ymadrodd bachog sy’n cael ei berfformio gan y ddau artist, sy’n datgan: “Peace, Risk, never too hard for the P’s (arian). I’ve seen, some things, my brothers are losing their peace.” Mae hyn yn awgrymu mai arian sydd wrth wraidd ein ffrindiau’n colli eu heddwch, yn ogystal ag awgrymu fod heddwch a risg gyfystyr â’i gilydd. Mae hyn yn arbennig o wir mewn sefyllfa lle gallai’r tawelwch meddwl o fod ag arian, o’i osod yn erbyn y risg o gael yr arian hwnnw, achosi i chi golli eich heddwch. Er mwyn lleddfu hyn, ein hateb syml yw na fyddwn byth yn gweithio’n rhy galed i ennill yr arian ond yn hytrach yn gweithio’n galed ar ein sŵn fydd, yn y pen draw, yn ennill yr arian i ni.

Mae’r hanes a’r geiriau yn ymestyn yn ddyfnach trwy benillion Kiy a Blank, ond ni fydd eu hystyr yn cael ei ddatgelu am resymau personol; nid yw hyn am y stori ei hun, ond yn hytrach am y cysyniad a arweiniodd at y stori. Er mor hawdd yw’r geiriau hyn i’w dehongli, mae yna gred fod y cysyniad o ‘closure’ yn rhywbeth y gall y gynulleidfa uniaethu ag o, gan eu hannog i gau pen y mwdwl ar eu hamgylchiadau eu hunain, a symud ymlaen at brofiadau mwy a gwell, waeth beth fo’r sefyllfa y cawn ein rhoi ynddi gan fywyd.

Gwrandewch ar y trac llawn : https://ffm.to/d7jkqxr

Dysgwch fwy am LowKiy: https://www.instagram.com/kiyansomji/

Dysgwch fwy am Blank Face: https://www.instagram.com/manlikeblankface/